Amdanom Ni
Mae Prosiect Newid Meddyliau yn rhan o Mind Casnewydd a dechreuodd ar 25ain Tachwedd 2013.
Ganwyd y syniad am y prosiect pan sylweddolodd pobl yn Mind Casnewydd fod cymaint o bethau yn rhwystro pobl ifanc rhag cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a phan roeddent yn ei gael, gwelwyd y canlynol;
- Nad oedd pobl ifanc am fynd drwy sianeli ffurfiol
- Nad oedd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn teimlo'n gysurus gofyn am gyngor gan oedolion proffesiynol
- Roedd y trothwyon cymorth yn golygu mai dim ond y rhai oedd â'r angen mwyaf neu'r rhai mewn argyfwng a oedd mewn argyfwng a oedd yn cael cymorth
Roedd pobl ifanc yn 'syrthio drwy'r rhwyd' neu'n gorfod aros ar restrau aros hir.
Dyfarnwyd arian i brosiect Newid Meddyliau gan Ddyfodol Disglair y Gronfa Loteri Fawr sy'n hyrwyddo gwaith i ddatblygu cadernid emosiynol pobl ifanc fel y gallant ymdopi â newidiadau allweddol yn eu bywydau.
Ein Nodau yw:
- Cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cael cymorth yn gynharach
- Gwella cadernid a'r gallu i ymdopi â newidiadau bywyd
- Cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n gwneud newidiadau llwyddiannus yn eu bywydau
Cael effaith barhaus a phellgyrhaeddol ar y cymorth y mae pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd yn ei dderbyn.
Ariennir y prosiect am 5 mlynedd ac mae'n cynnwys Casnewydd, Sir Fynwy , Tor-faen , Caerffili a Blaenau Gwent.
Gallwn gynnig y cyfleoedd canlynol i bobl ifanc:

