Gwirfoddoli
I bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed
Wyddech chi fod gwirfoddoli yn gallu eich helpu i fyw yn hwy? Yn ôl arbenigwyr iechyd cyhoeddus, gall helpu eraill wella'ch iechyd meddwl a'ch helpu i fyw'n hwy.*
*Iechyd Cyhoeddus Cyngor Meddygol Prydain - Dr Suzanne Richards
Yma ym Mhrosiect Newid Meddyliau rydym wir yn meddwl y gall pobl ifanc sydd wedi profi problemau iechyd meddwl ddefnyddio eu profiadau i helpu eraill a bod yn 'llysgenhadon' er mwyn herio'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Mae gennym nifer o gyfleoedd i bobl ifanc wirfoddoli gyda Phrosiect Newid Meddyliau:
Cymorth Cyfoedion:
Cynorthwyo pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sy'n debyg i chi sydd â phroblemau iechyd meddwl. Byddwch yn rhywun y gallant siarad ag ef a'u cynorthwyo yn ystod yr amseroedd caled. Bydd gwirfoddolwyr cymorth cyfoedion yn cael sesiynau hyfforddi, goruchwylio ac asesu rhagorol.
Y cyfan rydym yn ei ofyn yw eich bod rhwng 14 a 25 oed, eich bod yn frwdfrydig dros helpu eraill, eich bod am rannu eich profiadau ac y gallwch sbario tipyn bach o'ch amser. Mae gwirfoddoli yn rhodd wych i'w rhoi i eraill ac yn gyfnewid am hynny, byddwch yn cael tystysgrifau, cwrdd â ffrindiau newydd a byddwch ac yn dysgu sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol.
Panel Cynghori Pobl Ifanc:
Sut y gall oedolion redeg prosiect i bobl ifanc?
Hawdd! Mae gennym Banel Cynghori Pobl Ifanc:

Mae Prosiect Newid Meddyliau yn cymryd mewnbwn pobl ifanc o ddifrif a chredwn y dylai pobl ifanc gael dweud eu dweud am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Mae'r bobl ifanc sy'n gwirfoddoli ar ein panel yn ein helpu i wneud newidiadau a chynllunio'r prosiect fel ei fod ar ei orau bob amser.
Rydym yn cwrdd unwaith y mis yn Mind Casnewydd ac mae'n ffordd wych o wirfoddoli'n rheolaidd ac mae'n ddefnyddiol os oes gennych ddiddordeb mewn rheoli prosiectau a llunio polisi ac ymarfer.
Gallwch gyfrannu at y gwaith o reoli pob agwedd ar y prosiect, yn cynnwys dylunio taflenni, ysgrifennu cyrsiau hunanreoli a hyrwyddo'r prosiect.

