Cyrsiau
Weithiau gall fod yn anodd gofyn am help neu gydnabod bod gennych broblemau iechyd meddwl ac efallai na fyddwch chi'n gwybod ble i droi. Mae llawer o bobl ifanc yn hynod o annibynnol ac efallai y byddant yn teimlo nad ydynt eisiau help.
Fodd bynnag, mae ein cyrsiau hunanreoli yn ffordd berffaith o gymryd rhan yn ein prosiect a chael help cyn gynted â phosibl. Rydym yn cynnal cyrsiau hunanreoli yn rheolaidd ac mae'n ffordd wych o ddysgu rhagor am iechyd meddwl, dulliau ymdopi a chwrdd â phobl ifanc eraill sydd o bosibl yn profi anawsterau tebyg.
Mae pob cwrs yn canolbwyntio ar broblem iechyd meddwl benodol, ac yn para tua 3 awr a gallant redeg am gyfnod o ddwy i bedair wythnos. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal y cyrsiau canlynol:
Rheoli'ch Meddwl – Golwg gyffredinol ar y mathau o bethau a all fod yn effeithio ar eich iechyd meddwl a sut y gallwch gadw eich meddwl mor iach â phosibl. Hwn yw ein cwrs mwyaf cyffredinol ac mae'n lle gwych i ddechrau os ydych am ddatblygu'ch cadernid eich hun, cwrdd â phobl ifanc eraill a dod i adnabod y gweithwyr prosiect. Mae'r cwrs yn cynnwys dwy sesiwn 3.5 awr gydag wythnos rhyngddynt.
- Rheoli Gorbryder – Mae llawer o bobl ifanc rydym wedi siarad â hwy wedi dweud bod gorbryder yn rhan fawr o'u bywydau, o ofidiau a straen cyffredinol i bryder am adael y tŷ. Cynhelir y cwrs hwn dros gyfnod o bedair wythnos ac mae'n lle diogel i chi ddod i ddysgu rhagor am orbryder a sut y gallwch herio'r meddyliau pryderus yna!

